Gwyddeleg

Oddi ar Wicipedia
Gwyddeleg
Gaeilge
Siaredir yn Gweriniaeth Iwerddon (1.77 miliwn)[1]
Y Deyrnas Unedig (95,000)
America (18,000)
Yr Undeb Ewropeaidd (iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd)
Rhanbarth Gaeltachtaí, ond siaredir ar draws Iwerddon gyfan
Cyfanswm siaradwyr 391,470 rhugl neu siaradwyr brodorol (1983)[2]
Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 1.77 miliwn o bobl (3 oed a throsodd) yn y Weriniaeth yn gallu siarad Gwyddeleg[1]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Amrywiad ar yr Wyddeleg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Baner Yr Undeb Ewropeaidd Yr Undeb Ewropeaidd
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig -Gogledd Iwerddon
Rheoleiddir gan Foras na Gaeilge
Codau ieithoedd
ISO 639-1 ga
ISO 639-2 gle
ISO 639-3 gle
Wylfa Ieithoedd
Darlleniad Gyddeleg

Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).

Hanes[golygu | golygu cod]

Datblygodd yr iaith Wyddeleg allan o iaith Geltaidd hynafol a elwir Goedeleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goedelaidd eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol yr Wyddeleg a'r Aeleg yn tarddu o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.

Sefyllfa'r Wyddeleg yn 2007.

Sefyllfa heddiw[golygu | golygu cod]

Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.

Blwyddyn Nifer y siaradwyr Gwyddeleg Canran y siaradwyr Gwyddeleg
1861 1,077,087 24.5
1871 804,547 19.8
1881 924,781 23.9
1891 664,387 19.2
1901 619,710 19.2
1911 553,717 17.6
1926 543,511 18.3
1926 540,802 19.3
1936 666,601 23.7
1946 588,725 21.2
1961 716,420 27.2
1971 789,429 28.3
1981 1,018,413 31.6
1986 1,042,701 31.1
1991 1,095,830 32.5
1996 1,430,205 41.1
2002 1,570,894 41.9
2006 1,656,790 40.8
2011 1,774,437 40.6

Sail: Iwerddon gyfan at 1926, y Weriniaeth ers hynny[3]

Rhai geiriau Gwyddeleg[golygu | golygu cod]

  • - buwch
  • Fear / Duine - gŵr / dyn
  • Gealach - lleuad (lloer)
  • Grian - haul
  • Sliabh - mynydd
  • Trá - traeth
  • Maith - da
  • Glan - glân
  • Beag - bach
  • Mór - mawr
  • Leabhar - llyfr
  • Gorm - glas
  • Glas - gwyrdd
  • Dubh - du
  • Tine - tân
  • Am - amser
  • Aimsir - tywydd

Rhai Ymadroddion[golygu | golygu cod]

  • Dia Dhuit - siwmai / sut mae?
  • Conas atá tú? - sut wyt ti? /sut ydych chi?
  • An-mhaith - da iawn
  • Go raibh maith agat - diolch
  • Mise freisin - finnau hefyd
  • B'fhéidir - efallai
  • Níl a fhios agam - Dw i ddim yn gwybod / Wn i ddim
  • Ba mhaith liom... - Hoffwn i...
  • Cad is ainm duit? - Beth yw'ch enw chi?
  • Seán is ainm dom - Fy enw i yw Seán
  • Is mise Seán - Seán wyf i
  • Le do thoil - os gwelwch yn dda
  • Ní thuigim - Dw i ddim yn deall
  • Nílim cinnte - Dw i ddim yn siŵr
  • Cá bhfuil an t-ostán? - Ble mae'r gwesty?
  • An dtuigeann tú Gaeilge?" - Wyt ti'n deall Gwyddeleg?
  • Tuigim beagán Gaeilge." - Rwy'n deall tipyn bach o Wyddeleg
  • Is breá liom.. - Rwy'n hoffi...
  • Tá sé fuar inniú - Mae hi'n oer heddiw.
  • Tá brón orm - Mae'n flin gyda fi / mae'n ddrwg gen i
  • Slán - Hwyl

Cymariaethau â Chymraeg[golygu | golygu cod]

Y Rhifau

Y Storïwr Gwyddeleg a'i chwedlau gan J. E. Caerwyn Williams
Cymraeg un dau tri pedwar pump chwech saith wyth naw deg
Gwyddeleg aon trí ceathair cúig seacht ocht naoi deich

Rhagenwau

Cymraeg fi/i ti fe/e hi ni chi nhw
Gwyddeleg sé / é sí / í sinn sibh iad

Meddiant

Cymraeg fy nhŷ dy dŷ ei dŷ ei thŷ ein tŷ eich tŷ eu tŷ
Gwyddeleg mo theach do theach a theach a teach ár dteach bhur dteach a dteach

Gw - F

Cymraeg gŵr gwyn gwell gwin gwlyb gwir gwan gwyddbwyll gwylan
Gwyddeleg fear fionn (golau) fearr fíon fliuch fíor fann ficheall faoileán

P - C

Cymraeg pa pwy pen pedwar pump plant mab Pasg pawb pren
Gwyddeleg cad ceann ceathair cúig clann mac Cáisc cách crann

H - S

Cymraeg haul halen haf hen hynny hi
Gwyddeleg súil (llygad) salann samhradh sean sin

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Gwyddeleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Gwyddeleg
yn Wiciadur.
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd